Naw mlynedd o garchar i droseddwr rhyw o Borthmadog
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Borthmadog wedi ei garcharu am naw mlynedd a hanner am droseddau rhyw.
Plediodd Andrew Morley, 49 oed yn euog i 12 cyhuddiad o weithred rhyw gyda merch yn ei harddegau a dau achos o fod â lluniau anweddus yn ei feddiant.
Clywodd y barnwr Huw Rees yn Llys y Goron Caernarfon fod Andrew Morley wedi rhoi alcohol a chyffuriau i'r ferch.
Yn y llys, dywedodd y ferch bod Morley wedi ei "phoenydio" a bod y boen wedi aros gyda hi "fel cancr", gan ei ddisgrifio fel "anghenfil".
Wrth ddedfrydu, dywedodd y barnwr bod y "profiad erchyll wedi achosi niwed seicolegol" i'r ferch.
Bydd rhaid i Morley arwyddo'r gofrestr troseddwyr rhyw am oes, a rhoddodd y barnwr Huw Rees orchymyn yn ei atal rhag gwneud unrhyw gysylltiad â'r ferch.