Digwyddiad theatrig i drafod aflonyddu rhywiol

  • Cyhoeddwyd
ShermanFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorwyd Theatr y Sherman yn 1973

Bydd dioddefwyr yn trafod eu profiadau a'u storïau am aflonyddu rhywiol yn y diwydiannau creadigol mewn digwyddiad yng Nghaerdydd.

Gofynnir i bobl gyflwyno eu hanesion yn ddienw, a bydd actorion yn cyfleu'r storiâu fel rhan o ddigwyddiad #MeTooWales yn Theatr y Sherman ddydd Sadwrn.

Mae'r trefnwyr am i'r straeon gael eu clywed gan gynulleidfa, ac felly'n gobeithio trafodaeth all arwain at newid yn y diwydiant.

Mae'r grŵp theatr - Re-Live - yn dweud eu bod "yn werthfawrogol iawn o ddewrder dioddefwyr."

Fe fydd y cynhyrchiad dwyieithog yn golygu'r holl enwau, a gwybodaeth sensitif i sicrhau cyfrinachedd.