Leinster 54-10 Dreigiau
- Cyhoeddwyd

Leinster yn codi i'r ail safle yng Nghyngres B o'r Pro14 ar ôl sgorio wyth cais yn erbyn y Dreigiau nos Wener.
Er i gais gan James Benjamin roi'r Dreigiau ar y blaen o 10-0 ar ddechrau'r gêm, yn fuan iawn dechreuodd Leinster daro'n ôl, gan sgorio digon i sicrhau'r pwynt bonws.
Fe groesodd Isa Nacewa ddwywaith i'r tîm cartref, ac fe gafodd y Gwyddelod gais gosb yn yr ail hanner.
Cafodd Jamison Gibson-Park, Josh Murphy, Max Deegan, Rory O'Loughlin a Jordan Larmour hefyd bwyntiau i Leinster.