Gleision Caerdydd 36-30 Connacht
- Cyhoeddwyd

Buddugoliaeth nerfus i'r Gleision yn erbyn Connacht yn y Pro14 nos Wener, er gwaethaf y ffaith bod yr ymwelwyr wedi sgorio un cais yn fwy na'r tîm cartref.
Fe sgoriodd Ollie Robinson, Matthew Morgan ac Owen Lane i'r Gleision, wrth i'r Gleision aros ar y blaen drwy gydol y gêm ym Mharc yr Arfau.
Ond roedd angen y pwyntiau rhwng y pyst i sicrhau'r fuddugoliaeth, ac fe ddaeth y pwyntiau hynny gan Jarrod Evans a Gareth Anscombe, a sgoriodd wyth gwaith rhyngddynt.
Fe lwyddodd ceisiau gan Niyi Adeolokun, Shane Delahunt a John Muldoon i sicrhau'r pwynt bonws i Connacht.