Miloedd yn wynebu'r Nadolig heb Gredyd Cynhwysol
- Cyhoeddwyd

Mae miloedd o bobl yng Nghymru sydd wedi gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol yn wynebu peidio â derbyn arian erbyn y Nadolig o ganlyniad i amser aros o chwe wythnos.
Ymysg y rhai y mae'r newid yn cael effaith arnynt mae pobl sydd wedi gwneud cais yn Abertawe - mae nhw fod i newid i'r drefn newydd ar 13 Rhagfyr.
O ganlyniad i gyfnod o chwe wythnos i wneud cais, fyddan nhw nac unrhyw un arall sy'n gwneud cais newydd yng Nghymru ddim yn derbyn arian tan fis Ionawr.
Gofynnodd un person: "Pwy fydd yn rhoi'r twrci ar y bwrdd?"
Dywedodd Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fod taliadau o flaen llaw ar gael.
Beirniadaeth
Mae Credyd Cynhwysol yn cyfuno chwe budd-dal ar gyfer pobl oedran gwaith i fewn i un taliad. Wrth i berson ennill mwy o arian bydd y tâl yn gostwng.
Mae'n cael ei gyflwyno'n raddol ar hyd y DU ond mae sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth yn galw am atal y taliadau.
Ymysg y feirniadaeth mae'r oedi sydd yna i dalu rhai pobl.
Mae gwaith ymchwil gan y llywodraeth yn dangos fod gorfod disgwyl am chwe wythnos yn ffactor sy'n gorfodi rhai pobl i fod mewn dyled rhent.
Dywedodd Paul Langley, pennaeth diwygio lles yn 'Coastal Housing' yn Abertawe, fod y gymdeithas dai yn bryderus ynghylch sut y byddai cyflwyno'r gwasanaeth llawn fis Ionawr yn Abertawe yn effeithio ar denantiaid.

Mae Paul Langley yn bryderus sut bydd y newid yn cael effaith ar bobl Abertawe
"Yn agos at y Nadolig, ni fydd unrhyw un a fydd yn gwneud cais newydd yn derbyn unrhyw arian cyn yr Ŵyl," meddai.
"Felly mae'na bryder ynghylch sut y maent yn prynu teganau? Sut maen nhw'n bwydo eu hunain? Sut maen nhw'n [talu am] nwy, trydan, a phwy sy'n rhoi y twrci ar y bwrdd?"
"Mae hynny'n broblem fawr. Mae hynny'n newid ein ffocws o gefnogi pobl. Bydd rhaid i ni drafod sut mae blaenoriaethu biliau - ac yn syml cynghori pobl sut i gynnal ryw fath o fywyd derbyniol, i ddweud y gwir.
"Gallai hynny olygu defnydd o fanciau bwyd, neu gymorth arall ariannol i oroesi'r y Nadolig a'r flwyddyn newydd."
'Caledi eithafol'
Yn ogystal â'r rhai sy'n symud i'r system newydd, bydd y newidiadau yn cael effaith ar unrhyw berson sy'n hawlio credyd am y tro cyntaf yn ardaloedd Wecsam, Sir y Fflint, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen.
Dywedodd Hayley Macnamara, rheolwr polisi Cartrefi Cymunedol Cymru, sy'n cynrychioli cymdeithasau tai, fod y cyfnod aros o chwe wythnos yn achosi "caledi eithafol" ond ei bod yn croesawu'r ffaith y bydd y cyfnod aros yn gostwng i bum wythnos o fis Chwefror ymlaen.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau fod Credyd Cynhwysol yn galluogi pobl i gael gwaith yn gynt ac hefyd yn eu helpu i aros mewn gwaith yn hwy.
Ychwanegodd: "Ni ddylai neb sydd angen cefnogaeth aros am chwe wythnos. Ym mis Rhagfyr, gall pobl sy'n hawlio ofyn am hyd at 50% o'u taliad cyntaf a 50% pellach ym mis Ionawr os bydd ei angen arnynt, a bydd modd ei ad-dalu dros gyfnod o 12 mis. "