Uwch Gynghrair: Abertawe 0-0 Bournemouth
- Cyhoeddwyd

Leroy Fer gafodd cyfle gorau'r Elyrch i sgorio yn yr ail hanner yn erbyn Bournemouth
Abertawe yn dod a rhediad o golli pedair gêm yn olynol i ben wrth iddyn nhw sicrhau pwynt gartref yn erbyn Bournemouth mewn gêm di-sgôr ar Stadiwm Liberty.
Fe ddechreuodd y gêm gyda thempo uchel gyda Bournemouth yn edrych yn beryglus wrth ymosod.
Fe wnaeth Jordan Ayew daro'r trawst i'r Elyrch wedi 2 funud o'r gêm ond roedd Bournemouth yn parhau i roi amddiffyn Abertawe dan bwysau wrth iddyn nhw edrych am y gôl agoriadol.
Roedd rhaid disgwyl tan bum munud cyn yr egwyl i weld ergyd am gôl gyda Fabianski yn arbed ergyd gan Josh King.
Roedd y bêl yng nghefn y rhwyd ac Abertawe yn credu eu bod wedi mynd ar y blaen cyn i'r dyfarnwr wrthod gôl Wilfred Bony oherwydd trosedd gan Ayew ar Josh King.
Roedd rhwystredigaeth y tîm cartref yn amlwg ar yr egwyl wrth i rai o'r chwaraewyr amgylchynu o gwmpas y dyfarnwr Stuart Attwell i brotestio yn erbyn ei benderfyniad.

Roedd Wilfred Bony yn credu ei fod wedi sgorio yn yr hanner cyntaf nes i'r Dyfarnwr gosbi Jordan Ayew am drosedd ar Nathan Ake
Fe ddechreuodd Abertawe'r ail hanner yn llawer gwell na'r hanner cyntaf drwy greu problemau i amddiffyn Bournemouth.
A'r Elyrch oedd yn rheoli'r meddiant wrth i Bony a Sanchez gyd weithio'n effeithiol.
Daeth Leroy Fer i'r maes yn lle Renato Sanchez wedi 70 munud a daeth cyfle gorau'r gêm wrth i'r eilydd orfodi arbediad gwych gan Begovic yn y gôl i Bournemouth cyn methu ar yr ail gyfle.
Roedd cefnogwyr Abertawe eto yn gweiddi ar y dyfarnwr yn yr amser ychwanegol, y tro hwn Tammy Abraham aeth lawr yn y cwrt cosbi a chwaraewyr Abertawe yn credu y dylai nhw fod wedi cael cic o'r smotyn.
Daeth y gêm i ben gydag Abertawe'n rhwystredig na lwyddodd nhw i sgorio yn yr ail hanner wedi perfformiad calonogol gan yr Elyrch.