Adran Dau: Swindon 0-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Fe enillodd Casnewydd eu gêm gyntaf mewn pump diolch i beniad Ben Tozer yn y gêm oddi cartref yn Swindon.
Roedd Casnewydd yn croesawu eu capten yn ôl i'r tîm gyda Josh Labadie yn chwarae ei gêm gyntaf ers mis Hydref.
Fe aeth Casnewydd ar y blaen wedi 77 munud. Ben Tozer sgoriodd ei gôl gyntaf ers dros flwyddyn gyda pheniad pwerus o gic cornel.
Fuodd bron i Swindon unioni'r sgôr ym munud olaf y gêm ond daeth y postyn i achub Casnewydd gyda thîm Mike Flynn yn dychwelyd adref gyda thri phwynt gwerthfawr.
Bydd ffocws Casnewydd nawr yn troi at y gêm yn erbyn Caergrawnt penwythnos nesaf yng nghwpan FA Lloegr.
Bydd Josh Ladabie wedi'i wahardd ar gyfer y gêm ar ôl derbyn ei bumed cerdyn melyn o'r tymor yn erbyn Swindon.