Scott Williams yn gadael y Scarlets am y Gweilch
- Cyhoeddwyd

Mae Scott Williams yn gadael y Scarlets wedi 11 mlynedd gyda'r rhanbarth
Mae'r Gweilch wedi cyhoeddi bydd canolwr Cymru, Scott Williams yn arwyddo i'r clwb ar ddiwedd y tymor.
Bydd Williams yn gadael y Scarlets wedi 11 mlynedd yn chwarae i'r rhanbarth, ar ôl arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r Gweilch.
Mae Williams wedi ennill 50 o gapiau rhyngwladol i Gymru ac fe sgoriodd gais yn y golled yn erbyn Seland Newydd yng Nghyfres yr Hydref ddydd Sadwrn.
Dywedodd Williams: "Dydy hi heb fod yn benderfyniad hawdd ond dwi'n credu bod y symudiad wedi dod ar yr amser iawn yn fy ngyrfa.
"Dwi wedi mwynhau pob eiliad o'r 11 mlynedd diwethaf gyda'r Scarlets... a dwi nawr yn edrych ymlaen at sialens newydd gyda'r Gweilch."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2017
