Nottingham Forest 0-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Danny Ward yn sgorio gôl ryfeddol i roi'r Adar Gleision ddwy gôl ar y blaen
Roedd yr hanner cyntaf yn gêm agos er fod y sgôr yn awgrymu goruchafiaeth Caerdydd.
Roedd amddiffyn Caerdydd yn sicr iawn ac nid oedd pedwar amddiffynnwr y brifddinas yn rhoi lle i ymosodwyr Forest fygwth.
Gôl syml iawn oedd y gyntaf i Gaerdydd - cic gosb yn cael ei chyfeirio i'r blwch cosbi.
Yna llwyddodd Sean Morrison i godi goruwch pawb ac ennill y peniad. Trodd y bêl i gyfeiriad Junior Hoilett a'r cyfan oedd ei angen oedd peniad ysgafn i mewn heibio Jordan Smith i'r gôl.
Roedd Caerdydd felly ar y blaen ar ôl 23 munud.
Gydag amddiffyn cadarn roedd Caerdydd yn rhydd i wrthymosod yn chwim ac yn effeithiol er roedd Nottingham Forest yn bygwth ac wedi hawlio fod Manga wedi llawio yn y blwch cosb ar ôl 35 munud.
Ond gwrthod cic gosb a wnaeth y dyfarnwr Peter Bankes.
Gôl ryfeddol
Yna ergyd galed i Forest wrth i Callum Paterson benio'r bêl i Danny Ward. Ward yna yn sicrhau ail gôl ryfeddol i'r Adar Gleision o bellter o dros ugain llath.
Daeth yr hanner cyntaf i ben gyda'r ymwelwyr ddwy gôl ar y blaen.
Llwyddodd Caerdydd i gadw Forest yn dawel iawn am ran helaeth o'r ail hanner.
Ond erbyn yr ugain munud olaf yr oedd amddiffynwyr Caerdydd yn dechrau ymddangos yn flinedig.
Roedd hynny yn arbennig o wir pan ddaeth eilyddion Nottingham i'r cae - daeth Mustapha Carayol, Matty Cash a Ben Brereton â bywyd newydd i'w chwarae.
Ond nid oedd amddiffyn Caerdydd am ildio a daeth buddugoliaeth i'r Adar Gleision.
Mae Caerdydd yn dal i bwyso ar Wolves ar frig y Bencampwriaeth a hwythau yn ail a phedwar pwynt rhyngddynt.