Pro 14: Southern Kings 30-34 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Steff Hughes takes on Southern KingsFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Steff Hughes yn mynd amdani!

Sicrhaodd y Scarlets fuddugoliaeth ddramatig yn ngêm gyntaf eu taith i Dde Affrica yn y Pro 14 a hynny yn erbyn y Southern Kings.

Roedd hi'n gêm lle roedd y naill dîm a'r llall yn gwthio ar y blaen a phedwar cais i'r naill ochr a'r llall.

Cicio cywir Dan Jones sicrhaodd y fuddugoliaeth wrthiddo sicrhau dwy gic gosb a phedwar trosiad.

Roedd cicio Southern Kings fymryn yn llai cywir wrth i Zono lwyddo gyda dwy gic gosb ac un trosiad ac roedd yna un trosiad arall gan Coleman.

Roedd hi'n gêm lle roedd y dyrfa ar flaen eu sedd gydag wyth cais yn cynhyrfu stadiwm Nelson Mandela.

Daeth trosgais cyntaf y Scarlets ar ôl cyn lleied â phum munud trwy chwarae Tadhg Beirne.

Ymhen pum munud roedd y Kings wedi ateb gyda chais gan Makase ac ymhen pum munud arall wedi mynd ar y blaen gyda chais drwy chwarae mentrus Yaw Penxe.

Ond methwyd y trosiadau ar y ddwy. Drwy giciau cosb roedd y sgôr yn 16-10 i'r tîm cartref erbyn hanner amser.

Dechreuodd y Kings yr ail hanner yn hyderus gyda saith pwynt ychwanegol drwy gais Martin Du Toit a throed Oliver Zono.

Y Scarlets ddim yn ildio

Ond ymhen deg munud o'r ail hanner roedd y Scarlets wedi deffro ac wedi sgorio 14 pwynt drwy ddau gais - un gan Ioan Nicholas a'i goesau chwim ac yna un arall gan Werner Kruger.

Anelodd Dan Jones yn gywir ddwywaith ac wedi cic gosb arall roedd y Scarlets ar y blaen 23-27.

Yna cipiodd y Kings y flaenoriaeth eto gyda throsgais gan Klaasen gan ddod â'r sgôr i 30-27.

Ond nid oedd y Scarlets am ildio.

Bum munud yn ddiweddarach drwy waith caled Dan Jones cipiwyd trosgais arall i'r Scarlets ac fe sicrhawyd buddugoliaeth ddramatig i'r tîm o Lanelli.

Mae'r Scarlets felly yn parhau ar ben eu hadran hwy o'r Pro 14.