Y Ffair Aeaf: Mwy o ddefaid a moch eleni
- Cyhoeddwyd

Y dorf yn Ffair Aeaf 2016
Mae cadeirydd y pwyllgor sy'n trefnu'r Ffair Aeaf yn dweud bod nifer y cystadleuwyr eleni yn uwch nac erioed o'r blaen.
Eleni yw blwyddyn gyntaf Alwyn Rees o Bennal yn ei rôl fel cadeirydd y pwyllgor sy'n trefnu'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd.
Dywedodd bod yr ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn - yn enwedig yn adrannau'r defaid a'r moch.
"Adran y defaid yw'r adran gryfaf, mae'n well nag erioed, ac eleni mae 423 cystadleuydd wedi dweud eu bod yn bwriadu arddangos. Mae nifer y moch hefyd wedi codi," meddai.
'Mwy o lwyfan bellach'
Dywedodd bod y ffair wedi newid cryn dipyn ers ei sefydlu yn 1990.
"Mae hi bellach yn arddangos cynnyrch Cymru i'r byd. Mae'n fwy o lwyfan bellach," meddai.
"Braf oedd gweld cynhyrchwyr o Gymru yn llwyddo mewn ffair debyg yn Lloegr y penwythnos diwethaf."

Roedd yr arddangosfeydd yn barod yn Neuadd Morgannwg erbyn nos Sul.
Mae'n cydnabod bod y rheolau newydd ynglŷn â TB wedi bod yn her eleni gan mai newydd ddod i rym mae'n nhw. Ond dywedodd bod y trefnwyr "wedi llwyddo i oresgyn y problemau".
"Be sy'n dda yn y ffair bellach," meddai, "yw ei bod wedi datblygu yn ganolfan siopa Nadolig. Eleni mae gennym 352 o stondinau ac yn hynna o beth ry'n wedi datblygu yn fwy na ffeiriau tebyg.
"Mae'n ddigwyddiad cymdeithasol sy'n creu naws Nadoligaidd ac yn hwyrach ddydd Llun bydd deg o gorau plant ysgol o Sir Gaerfyrddin yn diddanu'r dorf.
Ychwanegodd fod lot fawr o waith paratoi wedi bod ond ei fod yn edrych ymlaen yn eiddgar at ei Ffair Aeaf gyntaf fel cadeirydd y pwyllgor trefnu.

Dros dri chant a hanner o stondinau a chyfle i siopa'n hwyr nos Lun