Llanc o dde Cymru yn euog o gynllunio ymosodiad terfysgol
- Cyhoeddwyd

Cafodd morthwyl a chyllell eu darganfod ym mag y llanc
Mae bachgen o dde Cymru wedi cael ei ganfod yn euog o gynllunio ymosodiad terfysgol ar ddiwrnod cyngerdd mawr yng Nghaerdydd.
Cafodd y llanc 17 oed ei ganfod yn euog o bum cyhuddiad yn Llys y Goron Birmingham, gan gynnwys annog terfysgaeth ac o fod â gwybodaeth terfysgol yn ei feddiant.
Cafodd ei arestio ar 30 Mehefin eleni, diwrnod ble roedd y canwr Justin Bieber yn perfformio yng Nghaerdydd o flaen torf o ddegau o filoedd yn Stadiwm Principality.
Roedd y bachgen wedi gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
Chwilio ar-lein
Roedd y bachgen, sy'n Brydeiniwr o gefndir gwyn, wedi gwadu'r pum cyhuddiad yn ei erbyn. Does dim modd cyhoeddi ei enw oherwydd ei oed.
Ond fe benderfynodd y rheithgor ei fod yn euog o'r pum cyhuddiad yn dilyn pedair awr a hanner o drafod.
Clywodd y llys ei fod wedi sefydlu cyfrif Instagram oedd yn cefnogi Al Qaeda ac wedi postio negeseuon yn annog jihad, gydag un yn gofyn i "Allah ddod â therfysgaeth i Gaerdydd ar 30 Mehefin".
Fe wnaeth yr heddlu hefyd ganfod ei fod wedi bod yn chwilio ar-lein ynglŷn â sut i gynnal ymosodiad gyda cherbyd, a sut i ladd pobl wrth drywanu.

Roedd y bachgen wedi chwilio am fanylion tefniadau diogelwch cyngerdd Justin Bieber yng Nghaerdydd
Ond dywedodd Delroy Henry, bargyfreithiwr yr amddiffyniad fod gan y bachgen ddiddordeb gwirion mewn pethau gwaedlyd, ond nad oedd yn bwriadu cynllunio ymosodiad.
Roedd y bachgen ei hun wedi dweud wrth y llys ei fod eisiau gweld pa mor hawdd oedd hi i ymchwilio i bynciau terfysgol ar-lein.
Dywedodd y barnwr fod y troseddau mor ddifrifol fel nad oedd dewis ond dedfryd o garchar.
Ychwanegodd fodd bynnag y byddai'n gohirio'r dedfrydu nes 10 Ionawr, er mwyn i asesiadau meddygol a seicolegol gael eu cynnal.