Difrod ffordd Môn: Galw am gymorth llywodraeth
Mae AC Ynys Môn wedi galw ar y llywodraeth i ddiogelu ffordd yr A545 yn ardal Biwmares oherwydd ei "phwysigrwydd i'r ardal".
Mae cynghorydd wedi dweud bod angen adeiladu ffordd newydd rhwng Porthaethwy a Biwmares yn dilyn difrod diweddar.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai mater i'r cyngor sir ydy'r ffordd.