Cadfridog Bosniaidd a laddodd ei hun yn 'fwystfil'
- Cyhoeddwyd

Mae Cymro oedd yn dyst i'r rhyfel yn Iwgoslafia wedi disgrifio'r cadfridog wnaeth ladd ei hun yn y doc yn llys Yr Hâg fel "bwystfil".
Ddydd Iau fe wnaeth Slobodan Praljak lyncu gwenwyn eiliadau wedi i farnwyr yn y Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol ar gyfer Iwgoslafia gadarnhau ei ddedfryd o 20 mlynedd yn y carchar am droseddau rhyfel.
Cafodd Praljak, sydd o gefndir Bosniad-Croat, ei ganfod yn euog o droseddau yn erbyn Mwslemiaid Bosniaidd yn ystod y rhyfel ar ddechrau'r 1990au.
Ar y pryd roedd y cyn-sarjant Andrew Williams o Gaergybi yn rhedeg uned wybodaeth i'r Cenhedloedd Unedig yn Gornji Vakuf, ble cafodd cannoedd o sifiliaid eu lladd.
'Lladdfa'
Roedd Praljak yn un o'r cadfridogion oedd yn gyfrifol am y lladdfeydd, ac fe wnaeth Mr Williams roi tystiolaeth yn ei erbyn yn yr achos llys.
Dywedodd nad oedd yn teimlo'n drist o gwbl ei fod bellach wedi marw: "Dwi ddim o blaid dienyddio, ond bydden i'n gwneud eithriad ar gyfer pobl fel fo."
Dywedodd y cyn-sarjant mai ei swydd ef oedd casglu gwybodaeth am yr holl grwpiau oedd yn ymladd o gwmpas Gornji Vakuf yn 1992 ac 1993.
Roedd y dref yng nghanol ardal o frwydro ffyrnig rhwng y Croatiaid Bosniaidd a'r Mwslemiaid Bosniaidd, ac roedd yn un o'r llefydd cyntaf i hil-laddiadau ddigwydd yn ystod y rhyfel.

Andrew Williams yn rhoi tystiolaeth yn erbyn Slobodan Praljak i'r llys yn Yr Hâg
Yn ôl Mr Williams roedd ymosodiad y Croatiaid yn "lladdfa".
"Unwaith i ymosodiad y Croatiaid ddechrau bydden i'n defnyddio unrhyw gadoediad fel cyfle i fynd i gasglu gwybodaeth," meddai.
"Bydden i'n ceisio canfod faint oedd wedi eu lladd, faint o fenywod oedd wedi eu treisio, faint o bobl oedd wedi diflannu."
Roedd ei dîm hefyd wedi cael y dasg o adnabod pa grwpiau oedd yn gyfrifol, a phwy oedd eu harweinwyr.
"Roedden ni'n dweud wrthyn nhw o hyd, peidiwch â meddwl y cewch chi osgoi unrhyw gosb am hyn. Roedden ni'n paratoi ar gyfer y tribiwnlysoedd rhyfel," meddai.
"Roedden ni wastad yn dweud y byddai pobl yn mynd o flaen eu gwell. Doedden nhw ddim yn meddwl fyddai'n digwydd fyth."
'Methiant mwyaf Ewrop'
Fe wnaeth Mr Williams adael y fyddin yn 1998 ar ôl 22 mlynedd o wasanaeth, ac mae bellach yn gweithio yn y diwydiant diogelwch.
Fe gyfrannodd dystiolaeth ddogfennol a thechnegol ar gyfer yr achosion llys yn seiliedig ar beth 'roedd wedi'i gasglu ar y pryd, ond dywedodd ei fod yn rhwystredig gyda pha mor hir gymrodd hi i'r achosion gael eu cynnal.
"Roedden ni'n gwybod mai hil-laddiad oedd yn digwydd. Mae'n siŵr mai dyma oedd methiant mwyaf Ewrop," meddai.
"Roedden nhw fel Natsïaid. Roedden nhw'n gwybod beth roedden nhw'n ei wneud a rhywsut roedden nhw'n gallu cyfiawnhau hynny i'w hunain."

Bu farw Slobodan Praljak ar ôl yfed gwenwyn yn y doc yn llys Yr Hâg, Yr Iseldiroedd
Daeth Slobodan Praljak, oedd gynt yn gynhyrchydd ffilmiau, yn un o brif arweinwyr Cyngor Diogelwch Croatia.
Cafodd ei gyhuddo yn Yr Hâg o droseddau yn erbyn "dynoliaeth, torri rheolau ac arferion rhyfel, a thoriadau difrifol o Gonfensiynau Genefa", gan gynnwys erledigaeth, llofruddiaethau, diarddeliadau, a charcharu Mwslemiaid Bosniaidd.
Wrth glywed am farwolaeth Praljak, dywedodd Andrew Williams mai ei obaith cyntaf oedd ei fod wedi marw mewn llawer o boen.
"Ro'n i'n falch ei fod wedi gwneud hynny," meddai.
"Roedd o'n gwybod beth oedd ei ddynion o'n wneud. Wnaeth o ddim stopio'r peth. Fe wnaeth o eu hannog nhw.
"Fe wnaethon ni ddweud wrthyn nhw drosodd a throsodd y bydden nhw'n cael eu dwyn i gyfrif am hyn, ac fe wnaethon nhw barhau."