Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Roedd y ddau gar yn teithio i gyfeiriad Dinbych ar yr A541 ger Afon-wen
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Sir y Fflint brynhawn Iau.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Land Rover gwyn a BMW llwyd ar yr A541 ger Afon-wen am tua 14:00.
Cafodd gyrrwr y Land Rover - dyn yn ei 50au o ardal Yr Wyddgrug - ei hedfan i ysbyty yn Stoke ond bu farw o'i anafiadau.
Roedd y ddau gar yn teithio i gyfeiriad Dinbych ar y pryd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio i unrhyw dystion neu unrhyw un welodd y cerbydau cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â'r llu.