Tân Llanrwst: Whirlpool yn 'methu yn eu cyfrifoldebau'
- Cyhoeddwyd

Bu farw Doug McTavish a Bernard Hender yn y tân ym mis Hydref 2014
Mae cadeirydd pwyllgor yn San Steffan wedi ysgrifennu at gwmni Whirlpool i fynnu atebion ynglŷn â'u penderfyniad i ddirwyn eu polisi o ail osod peiriannau sychu dillad gwallus i ben.
Mae'r cwmni'n cydnabod bod tua miliwn o beiriannau gwallus yn parhau mewn cartrefi ym Mhrydain.
Ddydd Iau fe ddywedodd yr unig berson i oroesi tân angheuol mewn fflat yn Llanrwst yn 2014 y bydd yn dwyn achos sifil yn erbyn y cwmni.
Daeth cwest i'r casgliad bod Doug McTavish, 39, a Bernard Hender, 19, wedi marw mewn tân oedd yn debygol o fod wedi cynnau yn y peiriant sychu dillad yn y fflat.
Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth roedd y crwner David Lewis wedi galw ar Whirlpool - y cwmni wnaeth gynhyrchu'r peiriant - i wneud newidiadau.
Ychwanegodd yr adroddiad bod "cynhyrchwyr y peiriant yn ymwybodol o nifer sylweddol o danau eraill gyda chysylltiad â pheiriannau a drysau tebyg", a bod Whirlpool yn defnyddio'r un dull o gynhyrchu drysau "yn llythrennol o fewn miloedd o beiriannau".
'Diffyg ymateb'
Roedd gan Whirlpool bolisi i gyfnewid peiriannau sychu dillad gwallus, ond dydyn nhw ddim yn gwneud hyn bellach.
Fe gafodd y polisi ei gyflwyno wedi iddyn nhw sylweddoli bod problem risg tân gyda dau beiriant rhwng mis Ebrill 2004 a Medi 2015.

Y difrod yn y fflat yn Llanrwst wedi'r tân
Yn ei llythyr, dywedodd Rachel Reeves - cadeirydd Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol San Steffan - bod Whirlpool wedi rhoi tystiolaeth iddyn nhw ar 31 Hydref eleni.
Ni wnaeth y cwmni grybwyll bod y polisi hwn yn dod i ben bryd hynny, meddai'r ysgrifennydd, ac mae hi'n cwestiynu pam eu bod wedi celu'r wybodaeth yma.
Mae Ms Reeves hefyd yn dweud fod y cwmni'n darparu gwybodaeth diogelwch gwahanol mewn gwledydd gwahanol, a bod diffyg ymateb i awgrymiadau gan grwneriaid yn dilyn tanau yn eu peiriannau.
Dywedodd bod y ffactorau yma'n awgrymu bod y cwmni yn "methu'n sylweddol yn eu cyfrifoldebau i ddiogelu cwsmeriaid".
Doedd Whirlpool ddim am ymateb i'r llythyr yn uniongyrchol, ond maen nhw'n dweud eu bod wedi gweld cwymp sylweddol yn y galw am beiriannau yn gyfnewid am rai gwallus, ac mai dyma'r rheswm am ddod â'r polisi i ben.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2017

- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017

- Cyhoeddwyd1 Medi 2017
