Cyn-gyfarwyddwr Clwb Rygbi Castell-nedd yn fethdalwr
- Cyhoeddwyd

Mike Cuddy yn 2014, cyn i'w gwmni adeiladu fynd i'r wal
Mae cyn-berchennog cwmni adeiladu Grŵp Cuddy, Mike Cuddy, wedi cael ei wneud yn fethdalwr.
Mae Mr Cuddy hefyd wedi ymddiswyddo fel cyfarwyddwr ar Glwb Rygbi Castell-nedd, gan adael ei wraig yn unig gyfarwyddwr ar y clwb.
Fe aeth ei gwmni adeiladu, a oedd yn arbenigo mewn dymchwel a pheirianneg sifil, i'r wal ym mis Gorffennaf 2018 yn sgil dyledion niferus.
Yn ôl Mr Cuddy, 54 oed o'r Bontfaen, roedd cael ei daro'n wael yn 2016 a'i anallu i reoli yn ystod ei salwch ar fai am fethiant y cwmni.
Cafodd ei wneud yn fethdalwr ar 9 Ionawr wedi i gredydwyr Buildabase gyflwyno deiseb fis Tachwedd diwethaf.

Roedd cefnogwyr Clwb Rygbi Castell-nedd wedi ymbil ar Mike Cuddy i werthu neu adael y clwb
Mae cofnodion Tŷ'r Cwmnïau yn dangos bod Mr Cuddy wedi ymddiswyddo fel cyfarwyddwr Rygbi Castell-nedd Cyf. ar 14 Ionawr.
Cafodd Simone Cuddy, ei wraig, ei phenodi'n unig gyfarwyddwr ar y clwb ar yr un diwrnod.
Roedd Clwb Cefnogwyr Rygbi Castell-nedd wedi ymbil ar Mr Cuddy i adael y clwb, ac roedd y clwb ei hun wedi wynebu deisebau dirwyn i ben yn yr Uchel Lys yn sgil dyledion treth i'r CThEM.
Mae Mrs Cuddy wedi bod yn gyfarwyddwr ar glwb rygbi Castell-nedd rhwng 2003 a 2007, ac wedi bod yn yr Uchel Lys o'r blaen yn wynebu cyn cyd-berchennog y clwb, Geraint Hawkes.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2018

- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018

- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2018
