Llofruddiaeth Tredegar Newydd: Un diffynnydd yn ddieuog
- Cyhoeddwyd

Mae Mr Evesham, chwith, yn dal i wynebu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder
Mae un o'r tri diffynnydd yn achos llofruddiaeth David Gaut wedi ei gael yn ddieuog o'i lofruddio ar gyfarwyddyd barnwr yr achos.
Dywedodd Mr Justice Lewis wrth y rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd i gael Darran Evesham, 47, yn ddieuog gan fod yna ddiffyg tystiolaeth.
Mae Mr Evesham, un o gymdogion Mr Gaut yn Nhredegar Newydd, yn dal i wynebu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac yn gwadu helpu symud ei gorff.
Mae dau gymydog arall, Ieuan Harley, 23, a David Osborne, 51, yn gwadu trywanu Mr Gaut i farwolaeth yn ei fflat fis Awst y llynedd.
Mae Mr Harley, sydd heb gartref sefydlog, yn gwadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder, ond mae Mr Osborne wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad hwnnw.
Roedd Mr Gaut wedi treulio 32 o flynyddoedd yn y carchar am lofruddio plentyn yn yr 1980au cyn cael ei ryddhau a symud i fyw yn Nhredegar Newydd.
Clywodd y rheithgor wrth i Mr Osborne ddechrau rhoi tystiolaeth bod ganddo broblemau gyda'i gof ac wrth gyfathrebu, a bod canolwr arbenigol wrth law i'w helpu.
Mae'r achos yn parhau.