Dedfryd o garchar am oes i ddyn am lofruddio ei gymydog
- Cyhoeddwyd

Bydd Ieuan Harley, 23, yn treulio o leiaf 24 mlynedd dan glo
Mae dyn 23 oed wedi cael dedfryd o garchar am oes gydag isafswm o 24 mlynedd dan glo am lofruddio un o'i gymdogion yn Nhredegar Newydd.
Cafwyd Ieuan Harley yn euog ym mis Chwefror, er iddo bledio'n ddieuog o lofruddiaeth David Gaut, 54, yn Nhredegar Newydd fis Awst y llynedd.
Cafodd Mr Gaut ei drywanu dros 150 o weithiau wedi i Harley ddarganfod ei fod newydd ei ryddhau o'r carchar wedi 32 o flynyddoedd am ladd plentyn 17 mis oed yn yr 1980au.
Dywedodd y barnwr wrth ddedfrydu'r diffynnydd yn Llys y Goron Casnewydd bod y llofruddiaeth yn un "creulon a chiaidd".
Roedd Mr Gaut newydd symud i'r fflat drws nesaf i un o ffrindiau Harley, David Osborne, gan ddweud wrth ei gymdogion newydd ei fod newydd gwblhau dedfryd hir o garchar am lofruddio milwr, yn hytrach na phlentyn.
Daeth hwythau i wybod y gwirionedd trwy ymchwilio'r achos ar y we.
'Dim gwell na David'
Mewn datganiad i'r llys yn ystod y gwrandawiad dedfrydu, dywedodd mam Mr Gaut bod ei mab "wedi talu'r pris" am ei drosedd yn 1985.
Gan gyfeirio at Harley, dywedodd Phyllis Gaut: "Dyw'r dyn yma ddim gwell na David - mae e hefyd yn llofrudd.

Cafwyd hyd i gorff David Gaut yn ardal Tref Elliot ar 4 Awst 2018
"Rwy'n deall na fydd rhai pobl yn cydymdeimlo bod David yn farw. Fel teulu, dydyn ni ddim yn esgusodi beth wnaeth David.
"Rwy'n credu bod gadael y carchar yn gyfle iddo wneud rhywfaint o ddaioni. Mae ei farwolaeth wedi gadael bwlch enfawr yn fy nghalon.
"Mae'r dyn yma wedi dwyn y cyfle iddo brofi ei fod wedi newid. Fy unig obaith yw y bydd yn difaru'r hyn wnaeth e."
'Sadistaidd'
Clywodd y llys bod Mr Gaut wedi cael ei berswadio i fynd i dŷ Osborne lle gafodd ei lofruddio.
Dywedodd Mr Ustus Clive Lewis: "Rwy'n sicr eich bod chi, Ieuan Harley wedi lladd David Gaut oherwydd i chi ddarganfod ei fod wedi lladd plentyn a phenderfynu y dylid gwneud iddo ddioddef.
"Yn syml, roedd yr hyn wnaethoch chi yn llofruddiaeth."
Ychwanegodd fod y llofruddiaeth honno yn amlygu "ymddygiad creulon oedd yn ymylu ar fod yn sadistaidd".

Mae David Osborne a Darran Evesham wedi cael eu carcharu am eu rhan yn llofruddiaeth David Gaut
Cafwyd Harley, oedd heb gartref sefydlog, hefyd yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder, ynghyd ag Osborne, 51 oed, a ffrind arall, Darran Evesham, sy'n 47.
Roedd y tri diffynnydd wedi symud corff Mr Gaut a cheisio glanhau'r tŷ wedi'r llofruddiaeth, ond fe gafwyd dau ohonyn nhw'n ddieuog o lofruddiaeth.
Cafwyd Osborne ddedfryd o ddwy flynedd a phedwar mis o garchar, ac Evesham ddedfryd o dair blynedd a hanner o garchar.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2019

- Cyhoeddwyd24 Awst 2018
