Diffoddwyr yn delio â thân mewn hen westy yn Noc Penfro
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y gwasanaeth tân bod rhan fawr o'r adeilad wedi cael ei "ddifrodi'n sylweddol"
Mae diffoddwyr wedi bod yn delio â thân mawr mewn hen westy ger Pont Cleddau yn Noc Penfro.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin ei alw i hen safle'r Cleddau Bridge Hotel ar Heol Essex am 02:49 fore Sadwrn.
Roedd y fflamau wedi gwasgaru ar draws y ddau lawr cyntaf, ond does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi'i anafu.
Mae'r fflamau bellach wedi'u diffodd ac mae chwe injan dân yn parhau ar y safle.
Dywedodd David Hancock o'r gwasanaeth tân bod rhan fawr o'r adeilad wedi cael ei "ddifrodi'n sylweddol".
Ychwanegodd llefarydd y bydd ymchwiliad i achos y tân yn dechrau brynhawn Sadwrn.