Dynes yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn ne Gwynedd
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A493 rhwng Llanegryn a Rhoslefain
Mae dynes wedi cael ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd wedi gwrthdrawiad ar ffordd yn ne Gwynedd nos Wener.
Un cerbyd yn unig oedd yn y digwyddiad ar yr A493 rhwng Llanegryn a Rhoslefain ger Tywyn.
Cafodd dau o griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd eu danfon mewn ymateb wedi'r alwad frys ychydig cyn 20:00.
Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.