Menyw yr yn ysbyty wedi ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Ffordd Parc Ninian yn ardal Glanyrafon
Mae menyw wedi cael ei chludo i'r ysbyty wedi ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd ben bore Sadwrn.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tua 05:30 yn Heol Parc Ninian yn ardal Glanyrafon.
Mae'r ddynes yn parhau yn yr ysbyty, yn ôl Heddlu De Cymru.
Mae'r llu'n apelio am unrhyw wybodaeth all helpu'r ymchwiliad.