Clwb Rygbi Cross Keys angen £20,000 i orffen y tymor
- Cyhoeddwyd

Cross Keys yn herio Pont-y-pŵl yn y mwd yn 2018
Mae Clwb Rygbi Cross Keys wedi lansio apêl am £20,000 i'w helpu i orffen y tymor yn Uwch Gynghrair Cymru.
Mae'r clwb yn dweud bod y ffaith mai dim ond dwy gêm gartref oedd ganddyn nhw rhwng mis Chwefror a mis Mai yn un o'r ffactorau sydd wedi arwain at eu trafferthion.
Mae Cross Keys yn y 14eg safle yn yr Uwch Gynghrair - tri safle o waelod y tabl.
Daw wedi i ddau glwb arall yn yr un gynghrair - Castell-nedd a Phontypridd - hefyd wynebu heriau ariannol yn ystod y tymor.
'Cyfnod anodd'
Yn eu hapêl ar-lein, dywedodd y clwb: "Bydd pob rhodd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod Clwb Rygbi Cross Keys nid yn unig yn gorffen y tymor presennol, ond yn parhau i ffynnu yn y dyfodol.
"Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i ni oll.
"Dydyn ni ddim yn gwybod ble fyddwn ni'r tymor nesaf ond ry'n ni angen eich help a'ch cefnogaeth i sicrhau bod rygbi'n parhau i gael ei chwarae ym Mharc Pandy am flynyddoedd i ddod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2019
