Dedfryd 9 mlynedd i briodfab am gnoi clust gwestai priodas

  • Cyhoeddwyd
James LangdonFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Llys y Goron Caerdydd i James Langdon ymuno mewn ysgarmes yn ei briodas ei hun

Mae dyn wedi ei garcharu am naw mlynedd am gnoi clust un o'r gwesteion yn ei briodas ei hun.

Cafwyd James Langdon, 26 oed o Lanharan, yn euog o anafu gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Fe wnaeth y priodfab wylltio wedi i bobl ddechrau ymladd yn ystod ei barti priodas ym mis Mawrth y llynedd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd iddo gnoi clust un o'i westeion "mor galed" i ddarn mawr ohono syrthio ar lawr, gan adael y dioddefwr yn chwilio am ei glust.

Colli 30% o'i glust

Dywedodd yr erlynydd Janet McDonald bod y dioddefwr yn "meindio'i fusnes ei hun" pan ddaeth dyn arall ato a'i herio.

Clywodd y llys i nifer o westeion ymuno yn y ffrae yn y parti yn Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg.

Ymunodd Langdon yn yr ymladd o flaen 150 o westeion, wedi i staff ddiffodd y gerddoriaeth a thynnu sylw'r priodfab meddw at yr ysgarmes.

Lleoliad y parti priodasFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ysgarmes o flaen 150 o westeion priodas yn Llanilltud Fawr

Clywodd y llys i dad Langdon gynnig talu am driniaeth gosmetig i'r dioddefwr, er mwyn ceisio ei ddarbwyllo i beidio â mynd at yr heddlu.

Fodd bynnag, aeth y dioddefwr at yr heddlu ddiwrnodau ar ôl y digwyddiad, pan oedd hi'n rhy hwyr dod o hyd i unrhyw dystiolaeth fforensig.

Ni ddaethpwyd o hyd i'r rhan goll o'i glust.

Dywedodd arbenigwr llawdriniaeth cosmetig fod y gwestai wedi colli 30% o'i glust dde ac y bydd ganddo greithiau am byth.

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr David Wynn Morgan: "Fe wnes di lansio dy hun i'r ysgarmes, glanio ar y dioddefwr, a chnoi dy ddannedd yn galed am ei glust dde.

"Mae'r llys yn bryderus dy fod wedi methu yngan yr un gair o edifeirwch am beth wnes di."