Deddf i wneud 'upskirting' yn drosedd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae cyfraith newydd yn dod i rym ddydd Gwener i wneud y weithred o dynnu llun i fyny sgert rhywun heb eu caniatâd - neu 'upskirting' - yn anghyfreithlon yng Nghymru a Lloegr.
Bydd troseddwyr yn wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar am gymryd llun neu fideo o dan ddillad pobl er mwyn cael golwg ar eu dillad isaf neu organau rhyw.
Roedd y fath ymddygiad eisoes yn drosedd yn Yr Alban, ond dyw'r gyfraith heb ei newid yng Ngogledd Iwerddon.
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod yr heddlu yng Nghymru wedi delio ag 11 achos o'r fath yn y flwyddyn ddiwethaf.
Fe wnaeth Heddlu De Cymru ddelio â thri achos honedig o berson yn recordio fideos i fyny sgertiau menywod tra'r oedden nhw yn siopa, gydag achos arall o berson yn ceisio tynnu'r math yma o lun yn y gweithle.

Ymgyrch Gina Martin sy'n gyfrifol am y gyfraith newydd
Daeth diffyg y gyfraith bresennol i'r amlwg ar ôl ymgyrch Gina Martin ar ôl iddi fynychu cyngerdd yn Hyde Park yng Ngorffennaf 2017.
Fe wnaeth dyn roi ffôn rhwng ei choesau a thynnu lluniau, ond ar ôl iddi ddweud wrth yr heddlu am y digwyddiad cafodd wybod nad oedd yr hyn ddigwyddodd yn drosedd benodol, a bu'n rhaid i'r heddlu roi'r gorau i ddwyn achos.
Fe fydd y gyfraith newydd yn golygu fod trosedd pan:
Fod person heb ganiatâd yn cymryd llun o dan ddillad person arall er mwyn edrych ar eu horganau rhyw, hyd yn oed os ydynt yn gwisgo dillad isaf;
Pan mai cymhelliad person yw gwneud hyn er mwyn pleser rhywiol, neu er mwyn achosi poen, braw neu gywilydd i'r dioddefwr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2011