Gweinidog am ddefnyddio pwerau trethu
- Cyhoeddwyd

Jeremy Miles: 'Ni ddylid bod ofn defnyddio pwerau trethu'
Ni ddylai Llafur fod ofn defnyddio pwerau trethu yng Nghymru ar ôl etholiadau nesa'r cynulliad, medd gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru.
Yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno, dywedodd Jeremy Miles, sydd hefyd yn Gwnsler Cyffredinol y llywodraeth, y dylai'r blaid fod yn barod i ddefnyddio'r pwerau "heb unrhyw gywilydd".
Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n barod i godi treth incwm, dywedodd wrth BBC Cymru y byddai "mewn ambell i gyd-destun", gan gyfeirio at yr angen i godi rhagor o arian er mwyn talu am ofal cymdeithasol.
Mewn araith ger bron y gynhadledd, ychwanegodd y bydd etholwyr yn 2021 yn dewis nid yn unig rhwng cynlluniau'r pleidiau i wario arian, ond i'w godi hefyd.
"Rwy'n credu yn gryf yn yr etholiadau nesaf, dan arweinyddiaeth ein prif weinidog Mark Drakeford... y byddwn ni'n dadlau dros ddefnyddio'r pwerau heb unrhyw gywilydd," meddai Mr Miles.
Fydd rhai yn ystyried ei sylwadau fel y rhai cryfaf hyd yma gan aelod blaenllaw o Lafur ynglŷn â pharodrwydd y blaid i ddefnyddio grymoedd y cynulliad dros drethu.
Y mis hwn fe gafodd rhai pwerau dros dreth incwm eu datganoli i Fae Caerdydd, er bod Llafur wedi addo peidio newid lefelau'r dreth yn y cynulliad hwn.

Fe bleidleisiodd mwyafrif o etholwyr Cymru o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016
Yn ei araith fe wnaeth Mr Miles hefyd rybuddio cynadleddwyr i fod yn ofalus wrth i'r broses Brexit fynd rhagddo.
Dywedodd fod dweud wrth bleidleiswyr o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd eu bod wedi gwneud y dewis anghywir "yn camddeall eu penderfyniad".
Roedd mwyafrif o bleidleiswyr Cymru o blaid gadael yn y refferendwm yn 2016.
Ond mae yna nifer o fewn y blaid Lafur yn gobeithio cael refferendwm arall.
Dywedodd Mr Miles fod rheiny wnaeth bleidleisio o blaid gadael wedi gwneud hynny am "nifer o resymau - rhai yn gysylltiedig ag Ewrop, llawer ddim.
"Ac er gwaetha'r ffaith ein bod wedi gobeithio cael canlyniad gwahanol, mae dweud wrth bobl eu bod wedi gwneud y dewis anghywir yn camddeall yn llwyr gwraidd y penderfyniad hwnnw.
"Mae nifer o bobl yn grediniol nad ydi'r gwleidyddion yn gwrando arnyn nhw."

Jeremy Corbyn: 'Ddim am greu rhwyg rhwng teuluoedd tlawd'
Mae Llywodraeth Cymru o blaid cael mynediad di-rwystr i'r farchnad sengl a chael rhan yn yr undeb dollau.
Ddydd Sadwrn fe ddywedodd arweinydd y blaid Lafur Jeremy Corbyn mai'r rhwyg fwyaf o fewn cymdeithas oedd rhwng y cyfoethog a'r tlawd ac nid Brexit.
Mae prif weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cefnogi'r cysyniad o ail refferendwm, ond ddim ond pe na bai Tŷ'r Cyffredin yn gallu datrys pethau.
Mae'r safiad yna yn wahanol i un y gweinidog iechyd Vaughan Gething, a ddywedodd wrth BBC Cymru ym mis Mawrth y dylid cynnal ail refferendwm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2019

- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2019

- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2019

- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2019
