'Rhaid atal ymosodiadau ar ddefaid'
Dydy'r deddfau presennol i atal ymosodiadau ar dda byw ddim yn gweithio ac mae angen eu newid, yn ôl perchnogion fferm ar Ynys Môn sy'n dal mewn sioc wedi ymosodiad diweddar ar eu tir.
Mae Robert Jones a'i gymar Marie Wilson wedi disgrifio'r olygfa ar eu fferm yn Rhos-y-bol, ger Amlwch, fel un tebyg i ffilm arswyd wedi i gi ladd pedwar oen a phedair mamog.
Dywed rheolwr dau o dimau troseddau cefn gwlad Cymru, Rob Taylor, bod yr heddlu angen mwy o rymoedd i fynd i'r afael â'r sefyllfa, ac mae undebau amaeth hefyd yn galw am gamau pellach.
Dywedodd llefarydd ar ran yr adran sy'n gyfrifol am faterion cefn gwlad, DEFRA bod yr heddlu eisoes â'r hawl dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991 i fynd i'r afael ag ymosodiadau ar dda byw.
Yn ôl Mr Jones roedd y profiad yn un torcalonnus.