Morgannwg yn colli o ddau rediad
- Cyhoeddwyd

Gwlad yr Haf yn dathlu buddugoliaeth arall
Roedd gêm undydd Morgannwg yn erbyn Gwlad yr Haf yn un llawn cynnwrf wrth i Forgannwg frwydro eu ffordd yn ôl wedi dechrau trychinebus lle collwyd chwe wiced am 41 rhediad.
Ond colli yn y diwedd a wnaeth y tîm cartref o ddau rediad.
Roedd Gwlad yr Haf wedi gosod targed sylweddol o 261 yn eu deugain pelawd.
Sgoriodd James Hildreth 67 o'r 261-9, tra bod Marnus Labuschagne a Marchant de Lange wedi hawlio tair wiced yr un.
Ychwanegodd Overton 41 parchus at y sgôr a chafwyd 83 rhediad hanfodol am y ddwy wiced olaf.
Agos iawn
Cafodd Morgannwg ddechrau trychinebus i'w batiad gyda bowlwyr Gwlad yr Haf Josh Davey (4-36) a Craig Overton (3-51) yn cipio wiced ar ôl wiced.
Roedd hi'n ymddangos fod popeth ar ben pan oeddynt yn 41 am chwech.
Ond drwy fatio rhyfeddol David Lloyd (84) a Graham Wagg (62) daeth Morgannwg yn agos iawn at gipio buddugoliaeth.
Ond gyda dau rediad yn eisiau tarodd Lukas Carey (39) un ergyd yn ormod ac wedi i Azhar Ali lwyddo i ddal y bêl yr oedd y frwydr drosodd.
Mae Gwlad yr Haf bellach wedi ennill pob un o'u gemau y tymor yma.