Cwest: Chwaraewyr CD yn achos pryder

  • Cyhoeddwyd
UPM ShottonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Thomas yn gweithio ar safle UPM pan fu farw

Mae darpar grwner yn y gogledd wedi mynegi ei phryder am fodolaeth chwaraewyr CD mewn cerbydau peiriannau trymion yn dilyn marwolaeth gweithiwr mewn melin bapur yn Sir y Fflint.

Clywodd cwest fod Austin Thomas, contractwr 29 oed, wedi ei wasgu i farwolaeth tra'n gweithio yn ffatri UPM Shotton ar 6 Chwefror 2017.

Penderfynodd rheithgor gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol ond dywedodd y dirprwy grwner, Joanne Lees, ei bod wedi cyhoeddi adroddiad er mwyn atal rhagor o farwolaethau, gan nodi rhai pryderon.

Mae ei hadroddiad yn dweud: "Er na wnes i glywed tystiolaeth yn dweud pryd gafodd y chwaraewr CD ei chwarae ddiwethaf, rwyf yn bryderus fod yna fodd i yrwyr wrando ar gerddoriaeth ar lefel uchel tra'n gweithio ar beiriannau o'r fath.

"Rwyf hefyd wedi clywed tystiolaeth sy'n dweud er bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn yr achlysuron o gerddwyr a cherbydau ar lawr y ffatri ar yr un pryd, dyw hyn heb stopio yn llwyr."

Fe wnaeth Ms Lees hefyd danlinellu ei phryder ynglŷn â defnydd canabis ar ôl clywed fod gan yrrwr y peiriant lefel o'r cyffur yn ei waed.

"Does yna ddim polisi ynglŷn â chynnal profion cyffuriau achlysurol yn enwedig ar gyfer gyrwyr periainau trymion.

"O glywed y dystiolaeth yn y cwest, rwy'n bryderus y gallai gweithiwr ddefnyddio cyffuriau heb yn wybod i'r cyflogwr, ac felly parhau i ddefnyddio peiriannau trymion gan greu risg o farwolaeth."

Cafodd gyrrwr y cerbyd trwm ei arestio ar ôl y digwyddiad, ond ei ryddhau yn ddigyhuddiad yn ddiweddarach.

Mae Ms Lees wedi anfon ei hadroddiad i'r prif grwner, y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a theulu Mr Thomas.

Roedd Mr Thomas, o bentref Oakenholt ger y Fflint yn dad i un plentyn ac yn gyn filwr gyda'r Gwarchodlu Cymreig.

Straeon perthnasol