Cyhuddo dyn lleol wedi achos taro a ffoi yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd y ferch ei tharo yn Sblot, Caerdydd nos Sadwrn
Mae dyn 28 oed o Gaerdydd wedi cael ei gyhuddo wedi achos o daro a ffoi wnaeth anafu merch chwech oed.
Mae wedi ei gyhuddo o achosi anaf difrifol tra'n gyrru ag yntau wedi'i wahardd ac o fethu â stopio wedi gwrthdrawiad.
Mae hefyd yn wynebu cyhuddiad o yrru heb yswiriant, ac roedd disgwyl iddo ymddangos o flaen ynadon y ddinas ddydd Llun.
Mae'r ferch yn dal yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng 19:30 a 20:00 nos Sadwrn yng Nghlôs Moorhead yn Sblot.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2019
