Dyn yn lladd ffrind gyda chleddyf am 'sarhau ei fam'
- Cyhoeddwyd

Fe newidiodd Kane Burns ei ble yn ystod achos yn Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn oedd yn wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth wedi newid ei ble, a phledio'n euog i gyhuddiad o ddynladdiad.
Yn Llys y Goron Caerdydd roedd Kane Burns wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth, ond ddydd Iau fe newidiodd ei ble a pheldio'n euog i gyhuddiad amgen o ddynladdiad Mohamed Megherbi.
Cafodd corff Mr Megherbi ei ddarganfod mewn ardal goediog ger Canolfan Hamdden Pentwyn ar 30 Tachwedd y llynedd, ar ôl bod ar goll ers 9 Hydref.
Bydd Burns yn cael ei ddedfrydu ddydd Mercher nesaf.

Cafodd Mohamed Megherbi ei weld ddiwethaf ar 9 Hydref
Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd fod Mr Megherbi wedi derbyn 'anafiadau ofnadwy i'w ben' a bod Burns wedi dweud wrth ffrind iddo ei fod wedi lladd Mr Megherbi am ei fod wedi "sarhau ei fam".
Dywedodd yr erlynydd Michael Jones bod Burns wedi gwneud "ymdrech arbennig i geisio cuddio'r llofruddiaeth" a bod bwyell, machete a chleddyf wedi cael eu darganfod a oedd yn "cyd-fynd â'r dadansoddiad fforensig o'r anafiadau a derbyniodd y dioddefwr".
Cafodd sampl o waed Mr Megherbi ei ddarganfod yn nhŷ Burns ar ôl i'r heddlu ymweld â'i fflat yn ardal Llanedern, Caerdydd.
Cafodd Burns, 26 oed, ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf yn y llys i gael ei ddedfrydu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2019

- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018

- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2018
