Ymchwiliad mwyaf erioed i salwch pan yn feichiog
Mae'r ymchwiliad gwyddonol mwyaf erioed wedi dechrau i gyflwr o'r enw Hyperemesis Gravidarum neu HG, cyflwr sy'n gallu peryglu bywyd merched yn ystod beichiogrwydd.
Bu Catrin Rachel, athrawes o Abertawe, yn diodde' o'r cyflwr yn ystod ei beichiogrwydd, a bu'n sôn am yr effaith arni hi a'i theulu.