Euog o lofruddio partner mewn ymosodiad gyda morthwyl
- Cyhoeddwyd

Roedd John Garner wedi gwadu llofruddio ei bartner
Mae rheithgor wedi penderfynu fod dyn o Sir y Fflint yn euog o lofruddiaeth ar ôl ymosodiad cynddeiriog gyda morthwyl ar ei bartner yn ei chartref ger Treffynnon.
Fe wnaeth John Garner, 51 oed, ladd Teresa Garner fis Hydref y llynedd ac yna galw 999 gan ddweud beth oedd wedi digwydd.
Yn ddiweddarach, fe wadodd y cyhuddiad o lofruddiaeth, gan fynnu nad oedd yn cofio dim am yr ymosodiad.
Fe fydd Garner, o Benyffordd, yn cael ei ddedfrydu ddechrau'r wythnos nesaf.
Cymerodd y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug lai na dwy awr i benderfynu.
'Amgylchiadau mwyaf ofnadwy'
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands mai dim ond un ddedfryd oedd yn bosib - sef carchar am oes.
Ond fe fydd yn rhaid iddo benderfynu ar yr isafswm y bydd yn rhaid i Garner dreulio dan glo cyn cael gwneud cais i'r bwrdd parôl.

Bu farw Teresa Garner ym mis Hydref y llynedd
Hyd yn oed wedyn, meddai'r barnwr, byddai hynny ond yn cael ei ganiatáu pe bai'n ddiogel i wneud hynny.
"Mae rheithgor wedi eich cael yn euog o lofruddiaeth gan amddifadu tri o blant o'u mam, dau o'r plant hynny yn blant i chi."
Ychwanegodd fod Teresa Garner wedi "colli ei bywyd yn yr amgylchiadau mwyaf ofnadwy yn ei chartref ei hun".
Hanes treisgar
Bu farw Ms Garner ar ôl ymosodiad ffyrnig. Roedd ganddi 16 o anafiadau i'w phen.
Roedd John Garner yn feddw pan gyrhaeddodd yr heddlu.
Yn ddiweddarach, dywedodd Garner ei fod wedi bod yn yfed am ddyddiadau ac nad oedd ganddo gof o'r digwyddiad.

Cafodd corff Teresa Garner ei ganfod mewn tŷ yn Llys Dewi, Pen-y-ffordd
Gwadodd ei fod yn teimlo cenfigen fod ei lysferch wedi ail gysylltu â'i thad naturiol, a bod ef wedi dechrau ymweld â'r tŷ.
Yn hytrach na chenfigen roedd Garner wedi ceisio dadlau ei fod yn ei "haddoli hi".
Yn ôl yr amddiffyniad cafodd Garner ei anfon o'r tŷ i gysgu mewn fan, gan awgrymu hefyd ei fod yn yfed yno.
Clywodd y rheithgor gan gyn-gariadon fod Garner wedi bod yn dreisgar neu wedi eu bygwth gyda thrais, ac fe dreuliodd gyfnod yn y carchar yn y gorffennol am ymosod ar un ohonyn nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2019

- Cyhoeddwyd7 Mai 2019

- Cyhoeddwyd27 Hydref 2018

- Cyhoeddwyd25 Hydref 2018
