'Peidiwch adeiladu slymiau'r dyfodol' medd gweinidog tai

  • Cyhoeddwyd
taiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gweinidog Llywodraeth Cymru wedi tanio ffrae gyda'r diwydiant adeiladu tai ar ôl eu cyhuddo o greu "slymiau'r dyfodol".

Fe wnaeth Julie James gwyno am ddatblygiadau "eilradd" mewn sylwadau a wnaeth i gynhadledd.

Mae Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi nawr wedi galw ar y Gweinidog Tai i esbonio beth oedd hi'n ei olygu.

Dywedodd Ms James wrth BBC Cymru mai'r unig beth a wnaeth hi oedd rhybuddio cwmnïau i beidio ag adeiladu slymiau'r dyfodol.

'Problemau lu'

Daw hynny wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos mai Cymru sydd wedi gweld y gostyngiad mwyaf ers y dirwasgiad yn nifer y tai sydd wedi'u hadeiladu.

Yng nghynhadledd Tai 2019 ym mis Mai, fe wnaeth Ms James fynegi pryder am "faint a safon rhai o'r tai sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru gan y sector preifat".

"Dwi eisiau i'r sector preifat roi'r gorau i adeiladu slymiau'r dyfodol, achos mae 'na ddatblygiadau rydyn ni wedi'u gyrru yma yng Nghymru allai fod â phroblemau lu mewn wyth mlynedd."

Julie James
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Julie James ei bod hi eisiau gweld "cymunedau" nid "ystadau"

Mae'r BBC wedi clywed recordiad o'r sylwadau, a ddenodd gymeradwyaeth ar y pryd, ac a gafodd eu hadrodd gyntaf gan Inside Housing.

Mewn llythyr dywedodd Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi Cymru, sy'n cynrychioli adeiladwyr tai, eu bod wedi'u "siomi" gan safbwyntiau Ms James, a galw arni esbonio ei sylwadau.

"Yn benodol, byddai'n ddefnyddiol gwybod a oedd eich pryderon yn seiliedig ar ddatblygiad penodol, neu a oedd yn sylw cyffredinol yn seiliedig ar faterion ehangach," meddai'r llythyr.

Ychwanegwyd bod y sector wedi "ymrwymo i ddarparu cartrefi fforddiadwy o safon", a bod mwy wedi'i wneud yn y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod prynwyr yn hapusach â'u tai.

Angen am ragor

Dywedodd Ms James ei bod hi eisiau gweld datblygiadau oedd yn gymysgedd o dai preifat a chymdeithasol "ble mae pobl eisiau byw a gweithio".

"Weithiau 'dyn ni'n adeiladu pethau sydd ar gyfer un tenantiaeth neu ddaliadaeth sydd ychydig yn gyfyng a dwys," meddai wrth BBC Cymru.

"Ddim wastad, ac mae'n gymysglyd ar draws Cymru, ond mae'n canllawiau polisi cynllunio newydd yn ei gwneud hi'n glir mai cymunedau 'dyn ni eisiau, nid ystadau.

"Felly beth dwi wedi'i ddweud yw peidiwch adeiladu slymiau'r dyfodol - gwnewch yn siŵr bod yr hyn 'dych chi'n adeiladu yn rhywbeth 'dych chi'n falch ohono, ac y byddech chi'n byw yno."

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf cafodd 5,777 o dai eu cwblhau yn 2018/19, cwymp o 13% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

taiFfynhonnell y llun, Getty Images

Y tro diwethaf i gwymp mor fawr â hynny ddigwydd oedd yn ystod y dirwasgiad yn 2009/10.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif bod angen 8,300 o dai newydd yng Nghymru bob blwyddyn dros y pum mlynedd nesaf er mwyn ateb y galw.

Ond mae gwahaniaethau rhanbarthol i'w gweld, gydag ardaloedd fel Casnewydd a Chaerdydd yn gweld nifer o ddatblygiadau.

Dangosodd y ffigyrau bod cwymp o 9% hefyd wedi bod yn nifer y tai fforddiadwy oedd wedi'u hadeiladu yng Nghymru.

Ar draws y wlad, y sector preifat sy'n darparu tua chwarter o'r holl dai cymdeithasol, gyda'r gweddill yn dod gan gymdeithasau tai neu awdurdodau lleol.

Straeon perthnasol