Ymchwiliad wedi i weithiwr ffordd farw yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd y dyn ei daro gan dractor ar ffordd Langstone Court sy'n rhedeg dan yr M4.
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i weithiwr priffyrdd farw mewn gwrthdrawiad.
Bu farw'r dyn oedd yn gweithio i Gyngor Casnewydd ar ôl cael ei daro gan dractor ar ffordd Langstone Court sy'n rhedeg dan yr M4.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad tua 11:40 fore Iau.
Mae dyn 55 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Mae'r dyn sydd o Gasnewydd bellach wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymwybodol ac yn ymchwilio i'r digwyddiad.