Cynghrair y Pencampwyr: Y Seintiau Newydd 0-2 Copenhagen

  • Cyhoeddwyd
TNSFfynhonnell y llun, PA Media

Cafodd Y Seintiau Newydd eu trechu'n gyfforddus yng nghymal cyntaf ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn FC Copenhagen o Ddenmarc nos Fawrth.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen o fewn 20 munud gyda gôl gan ymosodwr Cyprus, Pieros Sotiriou.

Dyblwyd y fantais wedi awr o chwarae, gyda Robert Skov yn sgorio o'r smotyn yn dilyn trosedd gan Keston Davies ar Sotiriou.

Bydd yr ail gymal yn cael ei gynnal yn Stadiwm Parken, Copenhagen, nos Fercher nesaf.