Dim oedfa ar Faes y Brifwyl, ond tocynnau am ddim

  • Cyhoeddwyd
Croeso

Bydd 6,000 o bobl yn cael mynediad am ddim i faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ddydd Sul.

Cafodd yr holl docynnau, a oedd ar gael i bobl leol yn unig, eu cymryd o fewn llai na diwrnod wedi'r cyhoeddiad ganol mis Gorffennaf.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi cyllid o £50,000 er mwyn cynnal y cynllun, gyda'r gobaith o efelychu Eisteddfod 2018 yng Nghaerdydd pan ymwelodd miloedd â hi am y tro cyntaf.

Wrth gyhoeddi'r arian, dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan: "Dyma gyfle gwych i bobl Sir Conwy ymuno yn y digwyddiad cyffrous hwn sy'n dathlu Cymru."

Capel
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn cyrraedd Capel Seion fore Sul ar gyfer yr oedfa

Yn y cyfamser, bydd yr oedfa flynyddol yn cael ei chynnal yng nghanol tref Llanrwst ar ôl i'r Eisteddfod benderfynu na fyddai'n cael ei chynnal yn y Pafiliwn eleni.

Mudiad Cytûn sy'n trefnu'r gwasanaeth, a fydd yn cael ei gynnal yng Nghapel Seion.

Fel arfer mae'r rhai sy'n mynd i'r oedfa yn cael tocynnau am ddim i fynd mewn i'r Maes ar y dydd Sul cyntaf.

Yn ôl prif weithredwr Cytûn, y Parch Aled Edwards, roedd yr Eisteddfod wedi cynnig cynnal y gwasanaeth ar Lwyfan y Maes, ond roedd hynny'n "anymarferol", meddai.

Dywedodd yr Eisteddfod mai penderfyniad Cytûn, yn y pen draw, oedd symud yr oedfa tu allan i'r Maes.