Cau rhan o'r A470 am bum noson
- Cyhoeddwyd

Bydd rhan o'r A470 yn Rhondda Cynon Taf ar gau am bum noson yr wythnos hon ar gyfer gwaith uwchraddio goleuadau traffig.
Bydd y ffordd rhwng Pontypridd ac Abercynon yn cau i gyfeiriad y de o 20:00 hyd at 06:00 ar nosweithiau Sul a Mercher ac i gyfeiriad y gogledd ar nosweithiau Llun a Mawrth.
Yn ogystal bydd cylchfan Abercynon ar gau nos Iau.