Y canwr Ian Watkins 'wedi cuddio ffôn' yn y carchar
- Cyhoeddwyd

Mae rheithgor wedi clywed bod cyn-brif leisydd y grŵp Lostprophets, Ian Watkins, wedi cuddio ffôn symudol yng Ngharchar Wakefield lle mae'n treulio dedfryd am droseddau rhyw.
Clywodd Llys y Goron Leeds bod Watkins, 42, wedi "cyflwyno" ffôn yn dilyn noeth-chwiliad.
Clywodd yr achos bod yr awdurdodau wedi cael gwybodaeth ym Mawrth 2018 bod ganddo ffôn yn ei feddiant, ac er na chafwyd hyd i unrhyw beth yn y lle cyntaf, fe wnaeth dynnu'r ffôn o'i ddillad isaf yn fuan wedyn.
Mae Watkins yn gwadu cyhuddiad o fod â ffôn symudol yn ei feddiant yn y carchar.
'Bygythiad'
Dywedodd Stephen Wood wrth amlinellu achos yr erlyniad bod y swyddog carchar wnaeth gynnal y noeth-chwiliad wedi parhau i gadw golwg ar Watkins bob 15 munud.
Mae'n honni bod y diffynnydd wedi gofyn a fyddai'n dal yn cael gweld ei fam, oedd yn teithio i ymweld ag e yn y carchar, cyn ildio'r ffôn.
Yn ôl Mr Wood, cafwyd hyd i declyn pweru ffôn ar ôl hynny yng nghell Watkins.
Roedd Watkins, meddai, wedi dweud wrth yr heddlu "ei fod yn cael ei orfodi i ddal gafael ar y ffôn gan garcharorion eraill".
Ychwanegodd Mr Wood bod Watkins yn honni bod "rhywun wedi bygwth ei fywyd" a'i fod wedi dychryn.
Roedd hefyd yn honni bod carcharorion eraill eisiau iddo alw "ei ddilynwyr" er mwyn iddyn nhw ddanfon arian atyn nhw.
Ond mae'r erlyniad yn dadlau nad oedd y diffynnydd yn gweithredu yn groes i'w ewyllys.
Ychwanegodd bod y ffôn wedi cael ei ddefnyddio i gysylltu â menyw o'r enw Gabriella Persson, ac mai hi oedd wedi rhoi gwybod i'r awdurdodau ynghylch y ffôn.
Mae'r achos yn parhau.