Diwrnod y cadeirio yn Eisteddfod Sir Conwy 2018
- Cyhoeddwyd

Mae sedd y gadair yn cynnwys cerrig o Afon Conwy
Seremoni'r cadeirio yw'r brif ddefod ar lwyfan y pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ddydd Gwener.
Mae saith o awdlau wedi eu cyflwyno i feirniaid y gystadleuaeth, sy'n cynnwys yr Archdderwydd newydd, Myrddin ap Dafydd.
Un o'r uchafbwyntiau eraill ar y maes yn Llanrwst fydd y seremoni i dderbyn aelodau newydd i Orsedd y Beirdd, gan gynnwys y delynores Catrin Finch a'r digrifwr, Tudur Owen.
Ond gyda rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am law trwm mewn grym ar draws Cymru tan hanner nos, fe allai'r trefnwyr orfod cynnal y ddefod yn y Neuadd Ddawns yn hytrach nag yn yr awyr agored.

Mae dwy ffon fugail yn rhan o gefn y gadair, sy'n cael ei noddi gan Undeb Amaethwyr Cymru
Roedd gofyn i ymgeiswyr am y gadair lunio awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd, heb fod dros 250 o linellau, ar y testun Gorwelion.
Llion Jones ac Ieuan Wyn yw'r ddau feirniad arall.
Gwenan Hâf Jones o Bentrefoelas sydd wedi dylunio a chreu'r gadair eleni, sy'n cael ei rhoi gan undeb Amaethwyr Cymru.
Os fydd yna deilyngdod, bydd y bardd buddugol hefyd yn cael £750, sy'n rhodd er cof am y Prifardd Gwynfor ab Ifor gan ei deulu.
Gruffudd Eifion Owen ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Gruffudd Eifion Owen gafodd ei gadeirio yng Nghanolfan y Mileniwm y llynedd
Bydd yr Orsedd yn derbyn dros 30 o aelodau newydd mewn seremoni ar y maes fore Gwener.
Bydd Catrin Finch yn cael gwisg werdd, yn ogystal â'r cerddor a'r bardd, Geraint Løvgreen, y newyddiadurwr, Bethan Kilfoil, a John Jones ac Alun Roberts - sy'n fwy adnabyddus fel y ddeuawd, John ac Alun.
Mae Tudur Owen yn cael gwisg las, ynghyd ag un arall o gyflwynwyr Radio Cymru, y gwerthwr ceir Gari Wyn.

Mae Gwenan Hâf Jones wedi cynnwys delwedd o'r bont yn Llanrwst ar gefn y gadair
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2019

- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019

- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2019
