Helpu symud ceir a charafanau o feysydd yr Eisteddfod
Mae tractorau a chymhorthwyr wedi bod ar ddyletswydd ym mhob un o feysydd parcio'r Eisteddfod Genedlaethol wrth i bobl gychwyn am adref o Lanrwst ar ddiwedd yr ŵyl.
Roedd rhannau o'r meysydd yn fwdlyd iawn wedi cawodydd trwm o law dros ddyddiau olaf y Brifwyl.
Bu'n rhaid cau'r maes pebyll ieuenctid a chanslo gigs deuddydd olaf Maes B yn sgil rhagolygon y tywydd, ac fe gafodd rhai o berfformiadau dydd Sadwrn eu symud i adeiladau mwy cadarn.