Anturiaethwr yn cwblhau taith 4,000km hyd afon yn China

  • Cyhoeddwyd
Ash Dykes yn sefyll o flaen mynyd gyda afon Yangtze yn y cefndirFfynhonnell y llun, Ash Dykes
Disgrifiad o’r llun,

Fe gymerodd taith Ash Dykes 352 o ddiwrnodau i'w gwblhau

Mae anturiaethwr o Gymru wedi cwblhau taith gerdded blwyddyn o hyd ar hyd afon Yangtze yn China - y person cyntaf i wneud hynny.

Dechreuodd Ash Dykes, o Hen Golwyn, ar ei daith wrth darddiad yr afon yn Tibet ac fe orffennodd ger Shanghai ddydd Llun.

Dywedodd Mr Dykes y byddai ei daith gerdded lawr llwybr yr afon yn "sicrhau lle iddo yn y llyfrau hanes".

Cafodd ei gyfarch gan gyfeillion ac aelodau o'r cyfryngau wrth iddo gwblhau ei daith.

Afon Yangtze, sy'n 3,900 milltir (6,300km) o hyd, yw'r drydedd hiraf yn y byd, y tu ôl i'r Nile a'r Amazon, a'r hiraf i lifo trwy un wlad.

"Mae'n newyddion mawr yma," meddai'r gŵr o Gonwy.

"Rydw i wedi bod yn gwneud llawer o deledu a chylchgronau, ac rydyn ni wedi gwneud rhaglen ddogfen ryngwladol a rhaglen ar deledu China hefyd," meddai.

"Doeddwn i ddim yn disgwyl y sylw yma o gwbl," meddai, "mae fy llyfr yn cael ei gyfieithu i Mandarin ac rwy'n teimlo mai dim ond y dechrau yw hyn."

Ash Dykes yn ymarfer ei martial artsFfynhonnell y llun, Ash Dykes
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ash Dykes yn serennu mewn sawl ymgyrch marchnata tra ar ei daith blwyddyn o hyd

Dywedodd ei fod wedi wynebu sawl her ar hyd y daith, gan gynnwys oedi cyn cychwyn y daith ei hun.

"Y cychwyn oedd yr anoddaf mewn gwirionedd," meddai.

"Roeddwn i ar 5,100m (16,730 troedfedd) - felly bum gwaith uchder yr Wyddfa a'r un uchder â gwersyll sylfaen Mt Everest. Roedd gennym ni lawer o bobl yn tynnu'n ôl oherwydd salwch," meddai.

"Pan gyrhaeddais i o'r diwedd roedd yn dechrau troi'n aeaf, roedd yr eira cyntaf wedi cyrraedd ac roedd y tymheredd wedi syrthio i -20C.

"Roedd yr eirth yn dod i lawr oddi ar gopaon y mynyddoedd oherwydd ei bod hi'n rhy oer ac roedden nhw'n hela. Roedden ni'n dargedau amlwg iddyn nhw."

Dywedodd Mr Dykes mai'r siwrnai hon oedd ei anoddaf a'i fod yn teimlo ar ei "fwyaf bregus" tra'r oedd yn Tibet, ond dywedodd y bydd ei anturiaethau nawr yn mynd yn "fwy uchelgeisiol".

"Rwy'n credu mai'r ffordd i wneud hynny yw ei wneud yn glyfar. Dim ond y dechrau yw hwn i farchnad China."

Straeon perthnasol