Dyn wedi 'lladd ffrind ar ôl cyfnewid rhyw am alcohol'
- Cyhoeddwyd

Cafodd David Phillips ei ganfod yn farw yng Nghimla, Castell-nedd yn mis Chwefror
Clywodd llys fod dyn wedi lladd ei ffrind ar ôl mynd i'w fflat i gael alcohol yn gyfnewid am ryw.
Cafwyd David Phillips, 76, yn farw yn ei gartref yng Nghimla, Castell-nedd ar 14 Chwefror, yn dilyn adroddiadau o ffrae.
Mae Thomas Carney, 28 o Llys Dur, Treforys, Abertawe, yn gwadu llofruddio Mr Phillips, ond mae wedi pledio'n euog i ddynladdiad ac ymosod ar heddwas.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y ddau ddyn wedi cyfarfod fis ynghynt mewn grŵp Alcoholics Anonymous yng Nghastell-nedd.
Dywedodd Patrick Harrington ar ran yr erlyniad: "Roedd y diffynnydd a'r dioddefwr yn gaeth i alcohol, ac mae'n ymddangos eu bod wedi dod yn ffrindiau da.
"Roedd o [Mr Carney] yn chwilio am alcohol ac ar ben ei dennyn aeth yno yn gyfnewid am ffafrau rhyw hoyw."
Ychwanegodd: "Nid wyf am gelu'r ffaith bod gan Mr Phillips ddedfrydau euog sylweddol yn ei erbyn am yr hyn y byddem yn ei alw'n pedoffilia, ond nid yw hyn yn cyfiawnhau ei lofruddiaeth."
'Ymosod gydag arfau'
Clywodd y llys bod Mr Carney yn y fflat am hanner awr cyn gadael, a bod y drws wedi'i gloi ar ei ôl.
Dywed Mr Harrington ei fod wedi dychwelyd mewn tymer ddrwg, a'i fod wedi "torri ei ffordd yn ôl i mewn" cyn ymosod yn filain ar Mr Phillips.
Tra roedd Mr Phillips ar y llawr roedd Mr Carney wedi sathru arno dro ar ôl tro, a defnyddio dau arf i barhau â'r ymosodiad - peiriant stereo trwm a stôl bren, meddai.
Cafodd Mr Carney ei arestio tra'n cuddio mewn gardd ychydig o strydoedd i ffwrdd.
Ddau ddiwrnod wedi marwolaeth Mr Phillips, dywedodd Mr Carney wrth feddyg fforensig ei fod yn smocio cannabis yn rheolaidd, ac yn yfed hyd at 60 uned o alcohol ac yn smocio 40 sigaret bob dydd.
Mae'r achos yn parhau.