Dean Saunders wedi'i garcharu am wrthod prawf anadl
- Cyhoeddwyd

Mae Dean Saunders yn wyneb a llais cyfarwydd fel sylwebydd pêl-droed ar deledu a radio
Mae cyn-ymosodwr Cymru, Dean Saunders wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i fethu â rhoi prawf anadl ar ôl cael ei stopio gan yr heddlu ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol.
Fe wnaeth Saunders, 55, ennill 75 cap dros Gymru rhwng 1986 a 2001 tra'n chwarae i glybiau fel Lerpwl ac Aston Villa.
Mae'r gŵr o Abertawe, sydd bellach yn byw yn Sir Caer, yn wyneb a llais cyfarwydd fel sylwebydd pêl-droed ar deledu a radio.
Cafodd ei ddedfrydu i 10 wythnos o garchar yn Llys Ynadon Caer ddydd Mercher, a'i wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd a hanner.
Fe wnaeth Saunders bledio'n euog i ddau gyhuddiad ar ôl cael ei stopio gan yr heddlu ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol yn ardal Boughton yng Nghaer ar 10 Mai eleni.