Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 Fulham

  • Cyhoeddwyd
Josh MurphyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Josh Murphy ei gôl gyntaf o'r tymor i roi Caerdydd ar y blaen

Bu'n rhaid i Gaerdydd fodloni ar bwynt yn erbyn Fulham er i'r ymwelwyr chwarae'r 20 munud olaf nos Wener gydag ond deg dyn.

Josh Murphy roddodd Caerdydd ar y blaen yn y frwydr rhwng y ddau glwb wnaeth ddisgyn o'r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.

Daeth ei gôl yn dilyn gwrth ymosodiad, gyda phas cywrain Ivan Cavaleiro yn cael hyd i Murphy, wnaeth redeg yn glir cyn ergydio i gefn y rhwyd.

Ond tarodd Aleksandar Mitrovic yn ôl i Fulham i ddod a'r sgôr yn gyfartal.

Roedd Fulham yn mwynhau mwyafrif y bêl wedi'r egwyl cyn i gyn Harry Arter, oedd ar fenthyg i Gaerdydd y tymor diwethaf, gael ei anfon o'r cae ar ôl dau drosedd o fewn dau funud.

Er i Gaerdydd fwynhau goruchafiaeth ar ôl hynny, doedd yna ddim ail gôl i dîm y brifddinas.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn symud i'r 10fed safle yn y Bencampwriaeth.