Arbrawf heddlu i erlyn gyrwyr peryglus

  • Cyhoeddwyd
gwrthdrawiadFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Heddlu'r De yn defnyddio dulliau newydd i gasglu gwybodaeth gan dystion wrth iddyn nhw geisio erlyn gyrwyr peryglus yn fwy effeithiol.

Mae'r cynllun arbrofol, yn defnyddio holiaduron ar gyfer tystion i'w llenwi ar unwaith, yn hytrach na defnyddio tystiolaeth llafar a ffurflenni eraill i'w cwblhau peth amser ar ôl unrhyw ddigwyddiad.

Yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe mae tystiolaeth yn medru cael ei golli ac mae casglu gwybodaeth yn gyflym yn medru gwella cywirdeb y dystiolaeth.

Maes o law mae hyn yn medru arwain at erlyniadau llwyddiannus mewn achosion o yrru peryglus.

Yn ôl Dr Ruth Horry o Brifysgol Abertawe mae gwybodaeth sy'n cael ei gasglu yn y fan a'r lle, yn dilyn digwyddiad, yn medru bod ar gyfartaledd yn 49% yn fwy cywir.

Yn ôl Dr Horry: "Mae ein gallu i gofio yn medru cael ei wyrdroi. Os fedrwch chi gael pobl i ysgrifennu ar unwaith beth welon nhw, mae modd gwahaniaethu rhwng beth welodd y tyst, a'r hyn glywodd y tyst yn hwyrach ynglŷn â'r digwyddiad."

Y llynedd roedd 4,215 gwrthdrawiad ar ffyrdd Cymru. Lladdwyd 103 o bobl ac fe gafodd 1028 o bobl anafiadau difrifol.

Llai na 60% o erlyniadau yn llwyddo

Dywedodd Dr Horry: "Ein bwriad yw gwella diogelwch y ffyrdd i bawb. Rydym yn gwybod bod gwybodaeth cywir gan dystion yn golygu cyfle gwell i erlyn gyrwyr peryglus."

Ar hyn o bryd mae llai na 60% o'r erlyniadau mewn achosion gyrru peryglus yn llwyddiannus.

O'r 5911 erlyniad am yrru peryglus rhwng 2008 a 2018 yng Nghymru cafwyd 3454 o yrrwyr yn euog o drosedd.

Fe ddechreuwyd yr arbrawf ym mis Mehefin ac fe allai'r cynllun gael ei ehangu i heddluoedd eraill maes o law.