Rheolau newydd i atal ffioedd rhentu
- Cyhoeddwyd

Mae deddf sydd yn ceisio amddiffyn hawliau tenantiaid yng Nghymru yn dod i rym dydd Sul.
Bwriad y gyfraith newydd Gymreig yw atal landlordiaid neu asiantiaid rhag codi ffioedd annheg.
Bydd hi'n anghyfreithlon codi tâl ar denantiaid er mwyn ymweld ag eiddo, arwyddo cytundeb, neu adnewyddu tenantiaeth.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r rheolau newydd yn golygu y gallai tenantiaid arbed hyd at £200 yn ystod pob tenantiaeth.
Fe allai unrhyw un sydd yn codi ffi anghyfreithlon gael cosb o £1000 neu eu herlyn mewn llys.

Yn ol y gweinidog Julie James mae angen amddiffyn tenentiaid rhag orfod tal ffioedd afresymol
Yn ol y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James: "Mae cyfran sylweddol o'r bobl yng Nghymru yn byw mewn cartrefi rhentu preifat ac mae'n holl bwysig y gallant deimlo'n hyderus eu bod yn cael bargen deg.
"Mae llawer wedi dweud mai'r ffioedd sy'n cael eu codi gan rai asiantiaid gosod a landlordiaid yw'r prif rwystr i ddod o hyd i gartref safonol ar rent. Roedd rhai tenantiaid yn wynebu sefyllfa lle'r oedd yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i gannoedd o bunnoedd yn ychwanegol at eu blaendal sicrwydd a'r rhent i'w dalu ymlaen llaw.
"Nod ein deddf newydd yw sicrhau y bydd rhentu yng Nghymru yn dod yn fwy rhesymol, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy tryloyw ac na fydd tenantiaid mwyach yn gorfod wynebu ffioedd ymlaen llaw a oedd weithiau'n sylweddol ac yn afresymol wrth iddynt ddechrau rhentu."