Carcharu gyrrwr am wthio lonciwr o bont i afon yn Llandaf
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Julia Pereira ei bod yn meddwl bod ei gŵr wedi marw pan welodd wyneb i lawr yn y dŵr
Mae gyrrwr 28 oed wedi cael dedfryd o garchar ar ôl achosi i lonciwr syrthio o bont i afon yng Nghaerdydd.
Cafodd Duarte Pereira waedlif i'r ymennydd ac fe dorrodd goes wrth syrthio i Afon Taf o Ffordd y Bont yn Llandaf ar 26 Mai.
Plediodd Gareth John Poole o'r Tyllgoed yn euog i gyhuddiadau o yrru heb y gofal a sylw dyladwy ac o yrru gyda lefel anghyfreithlon o alcohol yn ei waed.
Cafodd ddedfryd o 12 wythnos o garchar gan Lys Ynadon Caerdydd ac fe gafodd ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.

Cafodd Gareth John Poole ddedfryd o 12 wythnos o garchar
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Sirol Neale Thomas: "Tra'n feddw, fe aethoch chi ar y palmant a tharo aelod diniwed o'r cyhoedd i'r afon.
"Bu bron iddo farw. Mae cyfnod dan glo yn anochel."
Dywedodd Matthew Greenish ar ran yr erlyniad bod Mr Pereira a'i wraig yn rhedeg yn ôl at eu cartref pan welodd Mrs Pereira ei gŵr yn cael ei daflu i'r awyr dros reiliau'r bont ac yna â'i wyneb i lawr yn y dŵr.
"Roedd hi'n meddwl ei fod wedi marw," meddai wrth y llys.

Y gwasanaethau brys yn ymateb i'r digwyddiad yn Llandaf ddiwedd Mai
Mae Mr Pereira, sy'n fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dal yn gwella ar ôl cael llawdriniaeth.
Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen yn y llys, dywedodd ei fod wedi methu gweithio na gadael ei gartref ar ben ei hun ers y digwyddiad, a'i fod yn cael triniaeth at Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).
Clywodd y llys bod Poole a dau berson arall wedi helpu tynnu Mr Pereira o'r afon.
Dywedodd cyfreithiwr y diffynnydd, Carey Bridge ei fod eisiau gwneud popeth posib i helpu Mr Pereira, gan gynnwys talu iawndal iddo, a byddai byth yn dod dros yr hyn ddigwyddodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2019
