Carcharu dyn o Sir Fynwy am dalu rhieni i gam-drin plant

  • Cyhoeddwyd
Jonathan KayFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jonathan Kay wedi honni ei fod yn ceisio dal pedoffiliaid

Mae dyn o Sir Fynwy wedi cael ei garcharu am naw mlynedd am dalu er mwyn gwylio rhieni yn gwneud i'w plant berfformio gweithredoedd rhyw ar-lein.

Roedd Jonathan Kay, 54 oed o Drefynwy, wedi gwneud 190 o daliadau i deuluoedd yn Ynysoedd y Philippines.

Roedd wedi mynnu mai ei fwriad oedd ceisio dod o hyd i bedoffiliaid a rhwystro plant rhag cael eu cam-drin.

Cafwyd yn euog o 10 cyhuddiad yn ymwneud â throseddau rhyw yn Llys y Goron Merthyr Tudful fis diwethaf.

'Stori hurt'

Dywedodd y Barnwr John Philpotts yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher bod yr honiad mai ceisio dod o hyd i bedoffiliaid oedd Kay yn "stori hurt".

Roedd un o'r merched gafodd ei cham-drin yn dair oed.

Fe wnaeth Kay gyfaddef iddo dalu am berfformiadau ar-lein yn ymwneud ag oedolion - ond honnodd iddo erioed weld delweddau o gam-drin plant.

Dywedodd wrth y llys yn ystod ei achos ei fod yn ceisio casglu tystiolaeth am gang o bedoffiliaid ar Ynysoedd y Philippines er mwyn rhoi'r wybodaeth i'r awdurdodau.

Taflu cyfrifiadur i chwarel

Wedi iddo gael ei arestio fe wnaeth yr heddlu archwilio nifer o ddyfeisiau cyfrifiadurol Kay a darganfod tystiolaeth ei fod wedi trefnu'r gamdriniaeth gyda rhieni yn y Philippines.

Dywedodd yr heddlu bod Kay wedi taflu un cyfrifiadur i chwarel llawn dŵr er mwyn eu hatal rhag ei archwilio.

Yn ogystal â dedfryd o naw mlynedd dan glo bydd Kay yn destun gorchymyn atal niwed rhyw.

Straeon perthnasol