Gyrru'n feddw: Carcharu cyn-filwr a tharo dau ddyn

  • Cyhoeddwyd
Adam TaylorFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Adam Taylor wedi yfed wyth peint o gwrw cyn y digwyddiad

Mae cyn-filwr o'r Rhondda wedi ei garcharu ar ôl gyrru'n feddw a tharo yn erbyn dau ddyn.

Clywodd Llys y Goron Merthyr fod Adam Ross Taylor, 31 oed o Don Pentre, wedi yfed bron i bedair gwaith y lefel cyfreithlon pan achosodd anafiadau a "newidiodd bywyd" dau ddyn.

Dywedodd Taylor ei fod dan bwysau ar y pryd ar ôl mynychu prawf meddygol y fyddin ar gyfer milwyr gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).

Roedd wedi yfed wyth peint o gwrw pan darodd ei fan yn erbyn y ddau ddyn yn ardal y Banc, Pentre.

'Fel pe bai chi'n ddall'

Cafodd Ben Nicholas, 26, ei roi mewn coma yn dilyn y digwyddiad ar 9 Mehefin eleni.

Mae Luke Matthews yn parhau i ddefnyddio cadair olwyn o ganlyniad i gael ei daro gan y fan Citroen Berlingo.

Fe blediodd Taylor yn euog o fethu a rhoi prawf anadl ac o achosi anafiadau drwy yrru'n beryglus.

Dywedodd y Barnwr Geraint Walter wrth Taylor, oedd wedi gwasanaethu yn Afghanistan: "Roeddech wedi meddwi gymaint fel ei bod hi'n union fel pe bai chi'n gyrru'n gwbl ddall."

Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd ac wyth mis, a'i wahardd rhag gyrru am bum mlynedd a phedwar mis.